Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher,
21 Medi 2022
Amser y
cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/12975
------
Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.
1 Cwestiynau i'r Gweinidog Newid Hinsawdd - Gohiriwyd o 14 Medi
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd cwestiynau 1-2, 4 a 6-10. Tynnwyd cwestiwn 3 yn ôl. Ni ofynnwyd cwestiwn 5. Atebwyd cwestiynau 1, 4, 8 a 10 gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd. Atebwyd cwestiynau 2, 6, 7 a 9 gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd ar ran y Gweinidog Newid Hinsawdd. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd a’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd ar ôl cwestiwn 2.
2 Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg - Gohiriwyd o 14 Medi
Dechreuodd yr eitem am 14.16
Gofynnwyd cwestiynau 1-7, 9 a 11. Tynnwyd cwestiwn 8 yn ôl. Ni ofynnwyd cwestiwn 10. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
3 Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol - Gohiriwyd tan 28 Medi
Gohiriwyd yr eitem hon
4 Cwestiynau i'r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd - Gohiriwyd tan 28 Medi
Gohiriwyd yr eitem hon
5 Cwestiynau Amserol
Dechreuodd yr eitem am 15.03
Atebwyd gan Weinidog yr Economi
Hefin David (Caerffili): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y newyddion diweddar bod Bearmach Cyf. ar Ystâd Ddiwydiannol Pantglas, Bedwas, wedi mynd i ddwylo'r gweinyddwyr?
Atebwyd gan Ddirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon
Heledd Fychan (Canol De Cymru): Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cynnal gyda rhanddeiliaid lleol a chynrychiolwyr undebau ynglŷn â diogelu hawliau gweithwyr yn dilyn y cyhoeddiad diweddar ynglŷn ag allanoli gwasanaethau yng Nghanolfan Awyr Agored Genedlaethol Plas Menai?
6 Datganiadau 90 Eiliad
Dechreuodd yr eitem am 15.22
Gwnaeth Russell George ddatganiad am - PAPYRUS Elusen Atal Hunanladdiad Ifanc - 3 thad yn codi arian er cof am eu plant sydd wedi cyflawni hunanladdiad.
Gwnaeth Natasha Asghar ddatganiad am - Diwrnod Alzheimer y Byd.
Gwnaeth Rhys ab Owen ddatganiad am - Tony Paris, un o Dri Caerdydd a gafodd eu carcharu ar gam am lofruddiaeth, yn marw yn 65 oed.
Gwnaeth Delyth Jewell ddatganiad am - Teyrnged i Eddie Butler.
Gwnaeth Elin Jones ddatganiad am - Teyrnged i Mavis Nicholson, darlledwraig arloesol.
7 Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol - Tlodi tanwydd a'r Rhaglen Cartrefi Clyd - Gohiriwyd o 14 Medi
Dechreuodd yr eitem am 15.31
NDM8072 Jenny Rathbone (Canol Caerdydd)
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ar Dlodi tanwydd a'r Rhaglen Cartrefi Clyd, a osodwyd ar 18 Mai 2022.
Noder: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 19 Awst 2022.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
8 Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith - Ynni adnewyddadwy yng Nghymru - Gohiriwyd o 14 Medi - Tynnwyd yn ôl
Tynnwyd y cynnig yn ôl
9 Cynnig i gymeradwyo'r Cynllun Ieithoedd Swyddogol ar gyfer y Chweched Senedd a nodi'r adroddiad cydymffurfio ar gyfer y cyfnod 2021-22 - Gohiriwyd tan 28 Medi
Gohiriwyd yr eitem hon
10 Dadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig - Adolygiad o Reoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021 - Gohiriwyd tan 12 Hydref
Gohiriwyd yr eitem hon
Cynnig i atal Rheolau Sefydlog dros dro
Dechreuodd yr eitem am 16.31
NNDM8075 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8:
Yn atal Rheol Sefydlog 12.22(i) dros dro er mwyn caniatáu i’r gwelliannau a gyflwynwyd i NDM8073 gael eu hystyried yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mercher 21 Medi 2022.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
11 Dadl Plaid Cymru - Costau byw - Gohiriwyd o 14 Medi
Dechreuodd yr eitem am 16.32
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM8073 Sian Gwenllian (Arfon)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn credu bod y cynnydd presennol mewn biliau ynni yn anghynaladwy ac y bydd yn achosi straen ariannol a chaledi i aelwydydd, busnesau, a grwpiau cymunedol, tra bod cwmnïau tanwydd ffosil yn gwneud yr elw mwyaf erioed.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu mesurau argyfwng costau byw ehangach ar unwaith, fel:
a. haneru prisiau trenau a gosod cap ar brisiau bws;
b. gweithio gydag awdurdodau lleol i glirio rhai o'r ôl-ddyledion treth gyngor sylweddol sydd wedi cronni yn ystod cyfnod y pandemig;
c. rhewi rhent;
d. ailgyflwyno mesurau i wahardd troi allan yn y gaeaf;
e. ehangu'r cynllun prydau ysgol am ddim i blant ysgol uwchradd;
f. cynyddu'r lwfans cynhaliaeth addysgol i £45.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
13 |
0 |
39 |
52 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Yn nodi bod Llywodraeth y DU wedi cyflwyno ardoll ar elw ynni.
Yn croesawu'r camau a gymerwyd gan Lywodraeth y DU i fynd i'r afael â chostau byw, gan gynnwys:
a) gwarant pris ynni, sy’n rhoi cap ar gostau ynni;
b) taliadau costau byw i bobl ar fudd-daliadau incwm isel a chredydau treth gwerth £650;
c) taliad costau byw anabledd gwerth £150;
d) gostyngiadau misol mewn biliau tanwydd o fis Hydref ymlaen gwerth £400;
e) cynnydd yn y Cyflog Byw Cenedlaethol i £9.50 yr awr;
f) gostyngiad yn y gyfradd tapro credyd cynhwysol;
g) rhewi’r dreth tanwydd;
h) rhewi ffi'r drwydded teledu am ddwy flynedd;
i) taliadau tanwydd gaeaf ychwanegol.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth y DU i gefnogi pobl, busnesau a'r trydydd sector i wynebu'r heriau sydd i ddod.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
13 |
0 |
39 |
52 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi’r canlynol yn ei le:
Yn credu bod Llywodraeth y DU yn methu â dirnad difrifoldeb yr argyfwng hwn, ac y byddai’n caniatáu i bobl sy’n gweithio dalu cost cap ynni yn hytrach na threthu elw digynsail cynhyrchwyr nwy ac olew.
Yn croesawu’r £1.6bn a fuddsoddir yn benodol i helpu gyda chostau byw a’r rhaglenni cyffredinol sy’n rhoi arian yn ôl ym mhocedi pobl a ddarperir gan Lywodraeth Cymru y flwyddyn ariannol hon, gan gynnwys:
a) ehangu Taliad Cymorth Tanwydd y Gaeaf o £200 ar gyfer 400,000 o aelwydydd y gaeaf hwn;
b) dechrau cyflwyno prydau ysgol am ddim i bob disgybl cynradd o fis Medi 2022;
c) buddsoddi £51.6m yn y Gronfa Cymorth Dewisol i arbed pobl sydd mewn argyfwng ariannol difrifol;
d) £4m ar gyfer talebau tanwydd i helpu pobl sydd ar fesuryddion talu ymlaen llaw a banc tanwydd i bobl nad ydynt ar y prif gyflenwad nwy.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
27 |
0 |
25 |
52 |
Derbyniwyd gwelliant 2.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:
NDM8073 Sian Gwenllian (Arfon)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn credu bod y cynnydd presennol mewn biliau ynni yn anghynaladwy ac y bydd yn achosi straen ariannol a chaledi i aelwydydd, busnesau, a grwpiau cymunedol, tra bod cwmnïau tanwydd ffosil yn gwneud yr elw mwyaf erioed.
2. Yn credu bod Llywodraeth y DU yn methu â dirnad difrifoldeb yr argyfwng hwn, ac y byddai’n caniatáu i bobl sy’n gweithio dalu cost cap ynni yn hytrach na threthu elw digynsail cynhyrchwyr nwy ac olew.
3. Yn croesawu’r £1.6bn a fuddsoddir yn benodol i helpu gyda chostau byw a’r rhaglenni cyffredinol sy’n rhoi arian yn ôl ym mhocedi pobl a ddarperir gan Lywodraeth Cymru y flwyddyn ariannol hon, gan gynnwys:
a) ehangu Taliad Cymorth Tanwydd y Gaeaf o £200 ar gyfer 400,000 o aelwydydd y gaeaf hwn;
b) dechrau cyflwyno prydau ysgol am ddim i bob disgybl cynradd o fis Medi 2022;
c) buddsoddi £51.6m yn y Gronfa Cymorth Dewisol i arbed pobl sydd mewn argyfwng ariannol difrifol;
d) £4m ar gyfer talebau tanwydd i helpu pobl sydd ar fesuryddion talu ymlaen llaw a banc tanwydd i bobl nad ydynt ar y prif gyflenwad nwy.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
27 |
0 |
25 |
52 |
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.
12 Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig - Gohiriwyd tan 28 Medi
Gohiriwyd yr eitem hon
13 Cyfnod Pleidleisio
Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 17.26 cafodd y trafodion eu hatal dros dro i ganiatáu egwyl technegol cyn y Cyfnod Pleidleisio.
Dechreuodd yr eitem am 17.32
Crynodeb o Bleidleisiau
14 Dadl Fer - Gohiriwyd o 14 Medi
Dechreuodd yr eitem am 17.36
NDM8070 Jenny Rathbone (Canol Caerdydd)
Darparu prydau ysgol am ddim i bawb: yr heriau a'r cyfleoedd.
15 Dadl Fer (Joel James (Canol De Cymru)) - Gohiriwyd tan 28 Medi
Gohiriwyd yr eitem hon
Daeth y cyfarfod i ben am 18.04
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mawrth, 27 Medi 2022